Cymorth gyda chostau byw

Mae pobl mewn cymunedau ledled y wlad yn wynebu argyfwng costau byw digynsail. Mae costau'n cynyddu bob dydd, gyda phrisiau bwyd, tanwydd ac ynni i gyd yn codi. Ar ben popeth arall, rydw i’'n gwybod y gall fod yn anodd gwybod wiethiau lle i ddechrau a lle i fynd i gael cymorth. Dyna pam rydw i wedi casglu’r wybodaeth hon, a gobeithio y bydd yn fan cychwyn defnyddiol, yn nodi rhywfaint o'r cymorth a'r arweiniad sydd ar gael a sut i gael gafael ar y cymorth hwnnw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi camu i'r adwy lle bo hynny’n bosibl, a gyda’r pwerau cyfyngedig sydd ar gael iddi, ac mae hefyd wedi creu tudalen gynhwysfawr ar gyfer rhoi gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i bobl yng Nghymru gyda'r argyfwng costau byw. Cewch wybod rhagor yn www.llyw.cymru/help-gyda-chostau-byw.

Wrth gwrs, fel bob amser, rwyf yma i helpu fel eich Aelod lleol o’r Senedd, a gallwch hefyd gysylltu â'm swyddfa os ydych yn meddwl y gallaf eich helpu gydag unrhyw beth. Mae fy nhîm a minnau ar gael i gynnig cymorth naill ai drwy e-bost at hannah.blythyn@senedd.cymru neu dros y ffôn ar 01352 753464.

EICH CANLLAW I GAEL CEFNOGAETH

Y GRONFA CYMORTH DEWISOL

Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn darparu dau fath o grant nad oes angen i chi eu talu'n ôl – y Taliad Cymorth Brys a’r Taliad Cymorth i Unigolion. Mae'r Taliad Cymorth Brys yn grant sy'n helpu i dalu am gostau hanfodol fel bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio brys os ydych yn wynebu caledi eithafol. Mae hefyd yn darparu cymorth i aelwydydd oddi ar y grid sy'n gorfod talu ymlaen llaw am eu tanwydd. Mae'r Taliad Cymorth i Unigolion ar gyfer prynu dodrefn neu 'nwyddau gwyn' fel peiriant golchi, popty neu oergell.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion

Y RHAGLEN CARTREFI CLYD

Os ydych ar incwm isel ac yn berchen ar eich tŷ, efallai y byddwch yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni am ddim drwy gynllun Nyth.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion

CYNLLUN GOSTYNGIAD CARTREFI CYNNES

Gallech chi gael gostyngiad o £150 ar eich biliau trydan a nwy ar gyfer y gaeaf fel rhan o’r cynllun hwn, a weinyddir gan Lywodraeth y DU, ac mae’n agor fis Hydref. Byddwch yn cael y gostyngiad yn awtomatig os ydych chi’n gymwys, ac mae’n cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch cyflenwr. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer mesuryddion talu ymlaen llaw trwy daleb. Os ydych yn meddwl eich bod yn gymwys, gallwch wirio drwy ddilyn y linc isod.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion

CYNLLUN Y SEFYDLIAD BANC TANWYDD

Mae'r cynllun hwn yn cael ei gynnal ledled Cymru ac wedi'i gynllunio i gefnogi pobl mewn argyfwng tanwydd, gyda phartneriaid ym mhob ardal awdurdod lleol. Mae wedi'i anelu'n bennaf at aelwydydd sy'n talu am eu tanwydd ymlaen llaw, naill ai drwy fesuryddion talu ymlaen llaw neu drwy swmp-brynu tanwydd fel tanciau olew. Cysylltwch â Chyngor ar Bopeth Sir y Fflint ar 0808 278 7923 neu anfonwch e-bost at help@fuelbankfoundation.org.

TALIADAU TYWYDD OER A THALIADAU TANWYDD GAEAF

Mae'r cynllun Taliad Tywydd Oer yn dechrau os canfyddir bod gan eich ardal dymheredd sero gradd celsius neu islaw am saith diwrnod yn olynol a'ch bod ar rai budd-daliadau. Cewch £25 am bob cyfnod o saith diwrnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd 2024 a 31 Mawrth 2025.

Rhoddir Taliadau Tanwydd y Gaeaf yn awtomatig i bobl a anwyd cyn 23 Medi 1958, sy'n cael credyd pensiwn neu fudd-daliadau prawf modd eraill. Defnyddiwch y linc isod os ydych yn credu eich bod yn gymwys ac nad ydych wedi cael llythyr.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion

TALIADAU COSTAU BYW

Efallai bod gennych hawl i hyd at dri Thaliad Costau Byw gwerth cyfanswm o £900 gan Lywodraeth y DU os ydych yn cael budd-daliadau penodol.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion

Y GRONFA GYNGHORI SENGL

Mae'r gronfa hon yn cefnogi pobl i ddatrys problemau lles cymdeithasol. Gallai hyn gynnwys problemau gyda dyled, addysg, gwahaniaethu, tai neu fewnfudo.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion | FFONIWCH: 0800 702 2020

CYNLLUN CYMORTH I AROS CYMRU

Mae cynllun Llywodraeth Cymru yn helpu pobl sy'n ei chael yn anodd talu eu morgeisi drwy ddarparu benthyciadau ecwiti ad-daladwy, yn ddi-log am bum mlynedd, i bobl sydd mewn perygl o golli eu cartref.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion

NWY A THRYDAN

Gallwch gael cymorth os ydych yn cael trafferth talu eich bil ynni neu ychwanegu at eich mesurydd talu ymlaen llaw trwy siarad â’ch cyflenwr ynni. Mae rhagor o gymorth ar gael hefyd gan Cyngor ar Bopeth Sir y Fflint ar 0808 278 7923.

BILIAU DŴR

Os ydych chi'n cael trafferth talu eich bil dŵr, dylech gysylltu â'ch cyflenwr ar unwaith. Os mai Dŵr Cymru yw eich cyflenwr, mae wedi amlinellu’r cymorth y gall ei ddarparu, sy’n cynnwys cynlluniau talu a gostyngiadau yn y gyfradd ddŵr. Mae gan Hafren Dyfrdwy drefniadau tebyg.

Cliciwch yma am fanylion gan Dŵr Cymru
Cliciwch yma am fanylion gan Hafren Dyfrdwy

BILIAU BAND EANG A FFONAU SYMUDOL

Os ydych yn bryderus am dalu eich bil band eang neu ffôn symudol, dylech gysylltu â'ch cyflenwr ar unwaith, oherwydd efallai y bydd yn gallu llunio cynllun talu neu roi cefnogaeth arall ar waith i'ch helpu i aros wedi cysylltu.

BANCIAU, CARDIAU CREDYD A BENTHYCIADAU

Os na allwch gadw eich ymrwymiadau credyd, efallai y bydd eich credydwyr yn cytuno i wyliau talu tymor byr. Gallwch ofyn am hyn, ond nid oes rhaid i gredydwyr gytuno. Bydd y taliadau a fethwyd fel arfer yn cael eu trin fel ôl-ddyledion ac mae’n bosibl y bydd llog yn parhau i gael ei ychwanegu. Os ydych chi’n poeni am dalu eich taliadau cerdyn banc neu gerdyn  credyd, dylech gysylltu â’ch darparwr gwasanaethau ariannol ar unwaith, i gael gwybod am y cymorth y gallent ei gynnig.

TAI

P'un a ydych yn denant yn y sector cymdeithasol neu'r sector preifat, mae'n bwysig eich bod yn siarad â'ch landlord cyn gynted â phosibl os ydych yn meddwl y byddwch yn cael anhawster talu eich rhent a'ch biliau, oherwydd efallai y bydd yn gallu eich helpu. Efallai y bydd gennych hawl hefyd i gael help gyda'ch costau tai.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion
Mae gan Cyngor ar Bopeth Sir y Fflint linell gymorth ar gyfer dyled yn y sector rhentu preifat – FFONIWCH: 0808 278 7920

TALIADAU DISGRESIWN AT GOSTAU TAI

Os ydych yn denant mewn tŷ preifat neu gymdeithasol, efallai y bydd gennych hawl i Daliadau Disgresiwn at Gostau Tai gan eich cyngor lleol, yn ogystal â'ch budd-daliadau, i helpu gyda'ch costau tai.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion

DISGOWNT A GOSTYNGIAD YN Y DRETH GYNGOR

Efallai y bydd gennych hawl i ddisgownt, esemptiad neu ostyngiad  Treth Gyngor yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Mae rhai cynlluniau gwahanol ar gael. Gwiriwch eich cymhwysedd isod.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion

HAWLIO’R HYN SY’N DDYLEDUS I CHI

Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol y gallai fod ganddynt hawl i fudd-daliadau a allai gynnig y cymorth sydd ei angen arnynt. Os nad ydych yn siŵr pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio, gall Advicelink Cymru eich helpu i wirio a hawlio’r hyn sy’n ddyledus i chi.

FFONIWCH: 0808 250 5700

PRYDAU YSGOL AM DDIM

Mae Prydau Ysgol am Ddim ar gael i ddisgyblion cymwys sy'n mynychu'r ysgol yn llawn amser yng Nghymru. I gael gwybod a oes gan eich plentyn neu blant hawl i brydau ysgol am ddim, gallwch gysylltu â'ch awdurdod lleol i gael rhagor o wybodaeth a chanfod a yw eich plentyn neu blant yn gymwys.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion gan Lywodraeth Cymru
Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion gan Gyngor Sir y Fflint | FFONIWCH: 01352 704848

CYNLLUN BRECWAST AM DDIM

Mae plant sy’n cael cyfle i fwyta brecwast iach a maethlon cyn dechrau’r diwrnod ysgol yn iachach ac yn fwy tebygol o gyflawni eu potensial addysgol llawn. Efallai y bydd gan eich plentyn neu'ch plant hawl i gael brecwast am ddim os yw'r ysgol gynradd y maent yn ei mynychu yn cael ei chynnal gan yr awdurdod lleol ac os yw'n darparu brecwast am ddim. Gofynnwch i'ch ysgol am fanylion.

GRANT HANFODION YSGOL

Mae'r Grant Hanfodion Ysgol yn helpu teuluoedd gyda chostau'r diwrnod ysgol, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer eitemau fel gwisg ysgol ac offer. Gall dysgwyr y mae eu teuluoedd ar incwm isel ac sy’n gymwys ar gyfer budd-daliadau penodol wneud cais am grant o £125 i bob dysgwr a £200 i'r dysgwyr hynny sy'n cychwyn ym mlwyddyn 7, gan gydnabod y costau uwch sy’n gysylltiedig â dechrau’r ysgol uwchradd. Mae’r cynllun yn cau ar 31 Mai 2025.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion gan Lywodraeth Cymru
Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion gan Gyngor Sir y Fflint | FFONIWCH: 01352 704848

COSTAU GOFAL PLANT

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu hyd at 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar a ariennir gan y llywodraeth i rieni cymwys sy’n gweithio am 48 wythnos y flwyddyn os yw eu plant yn dair a phedair oed.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion

CYNLLUN CYCHWYN IACH

Os ydych chi'n feichiog ers 10 wythnos neu fwy neu os oes gennych chi blentyn o dan bedair oed, efallai y bydd gennych hawl i gael help i brynu llaeth a bwyd iach. Bydd cerdyn Cychwyn Iach yn cael ei anfon atoch gydag arian arno y gallwch ei ddefnyddio mewn rhai siopau yn y DU i brynu eitemau fel llaeth (ffres, wedi'i rewi) a ffrwythau a llysiau tun, llaeth fformiwla, a fitaminau Cychwyn Iach.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion

CYNGOR AR BOPETH CYMRU

Mae gan Cyngor ar Bopeth Cymru dudalen ar gyfer rhoi gwybodaeth ynghylch cael cymorth â chostau byw.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion | FFONIWCH: 0808 278 7923

CYMORTH IECHYD MEDDWL

Mae Llinell Gymorth C.A.L.L. yn llinell gymorth iechyd meddwl bwrpasol. Mae'n darparu cymorth cyfrinachol i ddod o hyd i gymorth sydd ar gael yn eich ardal leol. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau gwirfoddol ac elusennol.

FFONIWCH: 0800 132 737 neu ANFONWCH NEGES DESTUN: 81066

BANC BWYD SIR Y FFLINT

Mae gan Ymddiriedolaeth Trussell rwydwaith o 428 o fanciau bwyd sy'n gweithio i fynd i'r afael â thlodi bwyd a newyn. Mae’n gweithio gydag asiantaethau atgyfeirio i roi talebau bwyd i'r rhai sydd angen bwyd mewn argyfwng, a gall ddarparu parsel bwyd argyfwng am dri diwrnod.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion | FFONIWCH: 01352 757235

OERGELLOEDD CYMUNEDOL A HYBIAU CYNNES

Mae oergelloedd cymunedol yn cael ar gael yng Nghanolfan Gymunedol Parkfields yn yr Wyddgrug ac yn Refurbs yn y Fflint lle gallwch, am gyfraniad bach, ychwanegu at eich siopa gydag eitemau a roddwyd. Mae Cyngor Sir y Fflint hefyd wedi sefydlu hybiau Croeso Cynnes ar draws y sir lle gallwch gael diod poeth a chadw’n gynnes – os hoffech gael manylion, edrychwch ar y map ar-lein ar y linc yma.

Cliciwch yma ar gyfer Parkfields, Yr Wyddgrug | FFONIWCH: 01352 756337
Cliciwch yma ar gyfer Refurbs, y Fflint | FFONIWCH: 01352 734111

SHELTER CYMRU

Mae problemau tai yn aml yn dechrau oherwydd anawsterau ariannol. Os nad oes gennych lawer o arian, gall fod yn anodd dod o hyd i gartref iawn ac os na allwch dalu'r rhent neu'r morgais efallai y byddwch yn cael eich troi allan. Mae gan Shelter Cymru adran bwrpasol ar ei wefan sy’n nodi’r cymorth sydd ar gael i dalu am dai.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion

UNDEBAU CREDYD

Os ydych chi'n cael trafferthion ariannol ac yn bwriadu benthyca, dylech bob amser sicrhau eich bod yn benthyg gan fenthyciwr fforddiadwy, diogel a moesegol. Bydd undebau credyd yn benthyca'r hyn y gallwch fforddio ei ad-dalu yn unig, gan helpu i osgoi dyledion pellach na ellir eu rheoli. Maent yn arbennig o dda i'r rheini sy'n ei chael yn anodd benthyca gan fanciau oherwydd bod ganddynt hanes credyd gwael. Mae Undeb Credyd Cambrian yn rhedeg swyddfa yn KIM Inspire The Hub yn Nhreffynnon.

Cliciwch yma arr gyfer Undebau Credyd Cymru
Cliciwch yma ar gyfer Undeb Credyd Cambrian | FFONIWCH: 03332 000601