Hannah Blythyn ydw i ac rydw i'n falch o gynrychioli Delyn yn Senedd Cymru. Mae’n fraint cael gwasanaethu’r gymuned yr ydw i yn rhan ohoni ers 2016. Cefais fy magu yma, es i'r ysgol yma ac rydw i’n byw yma. Rydw i'n dod o Sir y Fflint ac yn gwasanaethu Sir y Fflint, ac rydw i wedi ymrwymo i weithio'n galed i wneud gwahaniaeth i Ddelyn a hyrwyddo ein cornel ni o'r wlad.
Yn y bôn, Aelod Seneddol yw AS, ond yng Nghymru. Fel Aelod o’r Senedd (AS) dros Ddelyn, sef rhan orllewinol Sir y Fflint, rydw i’n cynrychioli etholwyr o Oakenholt i Gronant, trefi’r Fflint, yr Wyddgrug, Treffynnon a Chaerwys a’r pentrefi niferus yn yr ardal. Mae fy swyddfa yng nghanol yr Wyddgrug ac rydw i’'n weithgar mewn cymunedau ar hyd a lled yr etholaeth drwy gydol y flwyddyn, gan gynnal dros 100 o ddigwyddiadau cymunedol, cynorthwyo bron i 1,000 o drigolion ac ymweld â thua 90 o fusnesau a sefydliadau ledled Sir y Fflint.
Rydw i yma i helpu gydag unrhyw gwestiynau, ymholiadau neu broblemau sydd gennych. Os nad fi yw'r pwynt cyswllt cywir i helpu, yna bydd fy swyddfa yn eich cefnogi i'r cyfeiriad cywir. Rydw i’n fwy na pharod i ymweld â sefydliadau, busnesau, ysgolion a grwpiau i ddarganfod mwy am eich gwaith ac i chi gael gofyn cwestiynau am fy ngwaith i. Hoffwn ofyn i chi roi cymaint o rybudd â phosibl i'm swyddfa gan fod fy nyddiadur yn aml yn llenwi'n gyflym.
Yn fyr, llawer o'r pethau yr ydym yn poeni fwyaf amdanyn nhw ac sy'n effeithio ar ein bywydau i gyd – o addysg i'r amgylchedd, iechyd i briffyrdd, diwylliant a thwristiaeth, datblygu economaidd a threthi datganoledig, amaethyddiaeth, bwyd, materion gwledig a'r Gymraeg a mwy.
I gael rhagor o wybodaeth am bwy sydd â’r cyfrifoldeb dros ba bŵer, ewch i https://senedd.cymru/sut-rydym-yn-gweithio/ein-rol/pwerau.
O ran sefydliadau deddfu, mae Senedd Cymru yn dal yn gymharol ifanc, gyda 2019 yn nodi 20 mlynedd ers datganoli. Mae datganoli wedi gwneud gwahaniaeth - o bresgripsiynau am ddim i fod y genedl gyntaf yn y DU i gael cyflog byw yn y GIG ac yn arwain y byd o ran ailgylchu. P'un a ydych yn ifanc neu'n hŷn – Lwfans Cynhaliaeth Addysgol, teithio am ddim neu am bris gostyngol ar fysiau a nawr y gallu i gadw mwy o'ch cynilion ar ôl gweithio’n galed amdanynt, os oes angen i chi fynd i ofal preswyl.
Fel Gog balch, gwn yn iawn am y pellter a'r teimlad o ddatgysylltu rhwng ein cornel ni o'r wlad a Bae Caerdydd - dyna pam rydw i wedi gweithredu i sicrhau mai agenda y Senedd yw ein hagenda ni a byddaf yn parhau i bwyso ar ran Gogledd Ddwyrain Cymru.