Hyrwyddwyr cymunedol

Wyddoch chi am grŵp, sefydliad neu unigolyn sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau beunyddiol pobl eraill yn Nelyn?

Rydw i bob amser yn chwilio am Hyrwyddwyr Cymunedol newydd sy'n haeddu cael eu cydnabod am y gwaith maen nhw'n ei wneud yn ein cymunedau. Rydw i am barhau i dynnu sylw at rai o'r unigolion, grwpiau a busnesau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn o ran cefnogi eraill a'u cymunedau trwy fynd y tu hwnt i'w gwaith a'u bywydau bob dydd a'u helpu i gael cydnabyddiaeth ddyledus – a dyna pam y gwnes i lansio fy ngwobrau Hyrwyddwyr Cymunedol rai blynyddoedd yn ôl.

I enwebu unigolyn, grŵp neu sefydliad i gael gwobr Hyrwyddwr Cymunedol, llenwch y ffurflen isod – ac ychwanegwch gymaint o wybodaeth ag y gallwch fel y gall fy nhîm gael darlun go iawn o'r grŵp / sefydliad neu'r unigolyn sy’n cael ei enwebu.

Cwrdd â hyrwyddwyr cymunedol...