Fi, Hannah Blythyn, yw’r Aelod o'r Senedd dros Delyn.
Un o'm rolau allweddol fel Aelod o'r Senedd yw codi materion ar ran etholwyr. Felly, byddaf yn aml yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud ag etholwyr fel rhan o fy rôl. O bryd i'w gilydd byddaf hefyd yn cysylltu â'm hetholwyr i ofyn iddynt gwblhau arolygon i gasglu gwybodaeth a barn ar faterion sy'n berthnasol i'm rôl fel Aelod o'r Senedd.
Yn yr adrannau isod, wrth gyfeirio at etholwyr byddaf yn defnyddio'r termau "chi" neu "eich".
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi gwybodaeth sy'n ymwneud â sut y byddaf yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol ac yn nodi pa hawliau sydd gennych mewn perthynas â'ch gwybodaeth bersonol o dan gyfraith diogelu data.
Rwy'n cymryd eich preifatrwydd o ddifrif ac eisiau i chi deimlo'n hyderus bod eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel yn fy nwylo.
Byddaf ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn unol â'r gyfraith diogelu data sy'n berthnasol i Gymru a Lloegr o bryd i'w gilydd. O dan y gyfraith diogelu data, pan fyddaf yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, byddaf yn gweithredu fel rheolydd data. Yn y bôn, mae hyn yn golygu y byddaf yn gwneud penderfyniadau ynghylch sut i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol a pham.
Mae sut y byddaf yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, y seiliau cyfreithiol y byddaf yn dibynnu arnynt, pa mor hir y byddaf yn cadw eich gwybodaeth bersonol a manylion eraill wedi'u nodi isod.
Pa wybodaeth bersonol y byddaf yn ei defnyddio
Sut y byddaf yn cael y wybodaeth bersonol
Bydd y wybodaeth yn cael ei darparu gennych chi pan fyddwch chi'n cysylltu â mi gydag ymholiad neu bryder neu gan drydydd parti lle mae'r ymholiad neu'r pryder yn cael ei godi ar eich rhan.
Ar gyfer pa ddibenion y byddaf yn defnyddio'r wybodaeth bersonol
Y seiliau cyfreithiol ar gyfer prosesu rwy'n dibynnu arnynt
Mae fy nefnydd o'ch gwybodaeth bersonol mewn cysylltiad â'r dibenion a nodir uchod yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd ynof fi. Y rheswm cyffredinol am hyn yw y bydd y weithred o brosesu eich gwybodaeth bersonol yn digwydd wrth berfformio gweithgareddau sydd yn eu natur yn cefnogi neu'n hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd.
Pan fo eich mater neu bryder yn un sy'n ymwneud â phrosesu gwybodaeth bersonol categori arbennig, bydd angen i fi ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol categori arbennig oherwydd budd sylweddol y cyhoedd. Mae hyn oherwydd bod y prosesu yn cael ei wneud gennyf i yn fy rhinwedd fel cynrychiolydd etholedig, mewn cysylltiad â chyflawni fy swyddogaethau ac mewn ymateb i gais gennych i gymryd camau neu gais ar eich rhan.
Pan fydd unrhyw farn (gan gynnwys barn wleidyddol) rydych chi'n ei darparu mewn ymateb i unrhyw arolwg neu ymarfer casglu gwybodaeth yn cynnwys prosesu gwybodaeth bersonol categori arbennig, bydd angen i mi ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol categori arbennig oherwydd budd sylweddol y cyhoedd mewn perthynas â'm gweithgareddau gwleidyddol, sef arolygon gwleidyddol..
Pa mor hir rwy'n cadw'r wybodaeth bersonol a pham
Byddaf yn cadw eich gwybodaeth bersonol nes bod eich achos wedi'i gau ac am gyfnod pellach o [5] mlynedd, neu hyd at etholiad nesaf Senedd Cymru, pa un bynnag fydd yn gyntaf.
Pa wybodaeth bersonol y byddaf yn ei defnyddio
Eich enw, eich manylion cyswllt (cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn etc).
Sut y byddaf yn cael y wybodaeth bersonol
PBydd y wybodaeth yn cael ei darparu gennych chi neu wedi dod o'r Gofrestr Etholiadol.
Ar gyfer pa ddibenion y byddaf yn defnyddio'r wybodaeth bersonol
I ddarparu cylchlythyrau a diweddariadau i chi am y gwaith rwy'n ei wneud yn eich ardal chi ac yn Senedd Cymru.
Y seiliau cyfreithiol ar gyfer prosesu rwy'n dibynnu arnynt
Ar gyfer cyfathrebu electronig, rydych wedi rhoi eich caniatâd.
Ar gyfer cyfathrebu heblaw drwy ddulliau electronig, mae fy nefnydd o'ch gwybodaeth bersonol yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd ynof mi. Mae hyn oherwydd y bydd prosesu gwybodaeth bersonol gennyf er mwyn cyfathrebu ag etholwyr yn dod wrth berfformio gweithgareddau sy'n cefnogi neu'n hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd.
Pa mor hir rwy'n cadw'r wybodaeth bersonol a pham
Pan fyddaf yn prosesu eich gwybodaeth bersonol i gyfathrebu at ddibenion marchnata uniongyrchol, byddaf yn cadw eich gwybodaeth bersonol oni bai eich bod yn rhoi gwybod i mi nad ydych bellach yn dymuno derbyn marchnata uniongyrchol gennyf. Gallwch ofyn imi roi'r gorau i anfon y cyfathrebiadau hyn atoch ar unrhyw adeg drwy e-bostio hannah.blythyn@senedd.cymru.
Weithiau, bydd angen i mi rannu eich gwybodaeth bersonol gydag eraill. Mae'r adran hon yn nodi manylion gyda phwy y byddaf yn rhannu eich gwybodaeth bersonol a pham. Mae hefyd yn dweud wrthych am fy seiliau cyfreithiol ar gyfer gwneud hynny o dan gyfraith diogelu data a'r camau y byddaf yn eu cymryd i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol.
Sylwch na fyddaf yn rhannu unrhyw wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu mewn gweithgareddau ymgysylltu sy'n cael eu hariannu gan Gomisiwn y Senedd at ddibenion pleidiau gwleidyddol neu ymgyrchu.
Gwybodaeth am ein perthynas â Chomisiwn y Senedd
Comisiwn y Senedd yw'r corff annibynnol sydd, ymhlith pethau eraill, yn cefnogi Aelodau o'r Senedd yn eu gwaith.
Pam mae angen i mi rannu eich gwybodaeth bersonol gyda staff Comisiwn y Senedd
I gael cyngor a chymorth i ddelio â'ch mater neu bryder.
Y sail gyfreithiol rwy'n dibynnu arni wrth rannu eich gwybodaeth bersonol
Bydd rhannu gwybodaeth bersonol gyda staff Comisiwn y Senedd yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd ynof mi. Mae hyn yn gyffredinol oherwydd y bydd prosesu eich gwybodaeth bersonol gennyf yn perfformio gweithgareddau sy'n cefnogi neu'n hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd.
Pa ragofalon ydw i'n eu cymryd?
Mae staff Comisiwn y Senedd wedi cynnal hyfforddiant diogelu data ac yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelu gwybodaeth bersonol. Mae gan Gomisiwn y Senedd bolisïau a mesurau diogelwch priodol ar waith i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol.
Pwy yw'r sefydliadau hyn?
Byddaf yn rhannu'r fath o'ch gwybodaeth bersonol sy'n angenrheidiol gyda sefydliadau a all gynorthwyo gyda'ch achos. Yn aml, bydd y rhain yn sefydliadau fel awdurdodau lleol a byrddau iechyd a fydd, o bryd i'w gilydd, yn dibynnu ar natur eich ymholiad neu bryder, yn gallu cynorthwyo gyda'ch achos neu y bydd ganddynt wybodaeth sy'n berthnasol i'ch achos.
Pam mae angen i mi rannu eich gwybodaeth bersonol gyda nhw
I gynorthwyo gyda'ch achos neu i gael gwybodaeth sy'n berthnasol i'ch achos.
Y seiliau cyfreithiol rwy'n dibynnu arnynt wrth rannu eich gwybodaeth bersonol
Bydd rhannu gwybodaeth bersonol gyda sefydliadau o'r fath yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd ynof fi. Mae hyn yn gyffredinol oherwydd y bydd prosesu eich gwybodaeth bersonol gennyf yn dod wrth berfformio gweithgareddau gwaith achos sydd yn eu natur yn cefnogi neu'n hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd.
Pa ragofalon ydw i'n eu cymryd?
Byddaf yn rhannu gwybodaeth bersonol dim ond fel sy'n angenrheidiol a byddaf yn cymryd camau i benderfynu bod y sefydliadau'n ymwybodol o bwysigrwydd diogelu gwybodaeth bersonol.
Gyda phwy fyddaf yn rhannu eich gwybodaeth bersonol?
Seilwaith TGCh Comisiwn y Senedd, sy'n cynnwys gwasanaeth cwmwl a ddarperir gan Microsoft, www.caseworkermp.com i storio a rheoli data mewn perthynas â gwaith achos.
Pam mae angen i mi rannu eich gwybodaeth bersonol gyda darparwyr o'r fath
Rwy'n defnyddio cyflenwyr cynhyrchion a gwasanaethau technoleg gwybodaeth mewn cysylltiad â chyflenwi, cynnal a chadw a / neu wella fy rhwydwaith TG, i reoli gwaith achos yn effeithiol trwy ddarparu meddalwedd priodol a chreu, datblygu, cynnal a chynnal a chadw fy ngwefan.
Y seiliau cyfreithiol rwy'n dibynnu arnynt wrth rannu eich gwybodaeth bersonol
Mewn perthynas â chyfathrebiadau electronig a anfonir ataf i, rydych wedi rhoi eich caniatâd. Ym mhob achos arall, rwy'n dibynnu ar fy muddiannau dilys i sicrhau bod fy ngwaith fel Aelod o'r Senedd yn cael ei reoli'n effeithlon a bod fy system TG yn gallu gweithredu'n iawn ac yn effeithlon a bod fy rhwydwaith TG yn ddiogel.
Pa ragofalon ydw i'n eu cymryd?
Rydw i neu Gomisiwn y Senedd (fel y bo'n briodol) yn ymrwymo i gontractau gyda fy narparwyr TG sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt roi mesurau diogelwch priodol ar waith ac sy'n cyfyngu ar eu defnydd o'ch gwybodaeth bersonol.
Efallai y bydd angen i mi hefyd rannu eich gwybodaeth bersonol ag eraill yn yr amgylchiadau canlynol:
Gofynion cyfreithiol neu reoleiddiol
Ar adegau, efallai y bydd yn ofynnol i mi ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i sefydliadau fel y llysoedd neu'r heddlu i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol.
Bydd unrhyw bostiadau neu sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol rydych chi'n eu hanfon (ar fy nhudalen Facebook, er enghraifft) yn cael eu rhannu o dan delerau'r platfform cyfryngau cymdeithasol perthnasol (e.e. Facebook neu Twitter) y maent wedi'u hysgrifennu arno a gellid eu gwneud yn gyhoeddus. Nid wyf yn rheoli'r platfformau hyn ac nid wyf yn gyfrifol am y math hwn o rannu. Cyn i chi wneud unrhyw sylwadau neu arsylwadau, dylech adolygu telerau ac amodau a pholisïau preifatrwydd y platfformau cyfryngau cymdeithasol rydych chi'n eu defnyddio. Trwy wneud hynny, byddwch chi'n deall sut y byddant yn defnyddio'ch gwybodaeth, pa wybodaeth sy'n ymwneud â chi y byddant yn ei roi yn y parth cyhoeddus, a sut y gallwch eu hatal rhag gwneud hynny os ydych chi'n anhapus amdano.
Ar wahân i'r gwasanaeth cwmwl a ddarperir gan Microsoft, nid wyf yn rhagweld bod angen anfon eich gwybodaeth bersonol y tu allan i'r DU. Mae Microsoft wedi rhoi contract ysgrifenedig ar waith sy'n ymgorffori cymalau enghreifftiol sy'n ymwneud â throsglwyddo gwybodaeth bersonol y tu allan i'r DU sy'n darparu mesurau diogelu eich gwybodaeth bersonol.
Diogelu
Ar adegau, efallai y bydd angen i mi ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i sefydliadau eraill fel yr awdurdod lleol neu'r heddlu at ddibenion diogelu er budd sylweddol y cyhoedd.
Cyngor proffesiynol a chamau cyfreithiol
Efallai y bydd angen i mi ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i'm cynghorwyr proffesiynol (er enghraifft, cyfreithwyr a chyfrifwyr) mewn cysylltiad â darparu cyngor proffesiynol ganddynt a/neu sefydlu neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.
Arweinydd Grŵp
Efallai y bydd angen i mi ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i Arweinydd Grŵp fy mhlaid wleidyddol er mwyn cael cyngor a chymorth gan staff y Grŵp er mwyn delio â'ch mater neu bryder. Bydd rhannu gwybodaeth bersonol yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd ynof fi. Y rheswm cyffredinol am hyn yw y bydd prosesu eich gwybodaeth bersonol gennyf yn perfformio gweithgareddau gwaith achos sydd yn eu natur yn cefnogi neu'n hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd.
Os bydd yn angenrheidiol mewn unrhyw amgylchiadau eraill i drosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i'r DU, byddaf yn rhoi gwybod i chi, ond byddwch yn dawel eich meddwl, os oes angen i mi drosglwyddo'ch gwybodaeth bersonol y tu allan i'r DU, byddaf yn defnyddio un o'r mesurau diogelu hyn i wneud yn siŵr ei bod yn cael ei diogelu:
O dan gyfraith diogelu data, mae gennych nifer o wahanol hawliau sy'n ymwneud â'r defnydd o'ch gwybodaeth bersonol sy'n berthnasol mewn rhai amgylchiadau. I grynhoi, yr hawliau hynny yw:
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am eich hawliau a'm rhwymedigaethau ar wefan ICO https://ico.org.uk. Os hoffech arfer unrhyw un o'ch hawliau, gallwch wneud cais drwy e-bostio hannah.blythyn@senedd.cymru.
Os byddwch yn gofyn am arfer unrhyw un o'ch hawliau, mae gennyf hawl i ofyn i chi roi unrhyw wybodaeth i mi a allai fod yn angenrheidiol i gadarnhau eich hunaniaeth.
Os ydych wedi rhoi eich caniatâd i mi ddefnyddio unrhyw wybodaeth bersonol, gallwch dynnu'ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg drwy e-bostio hannah.blythyn@senedd.cymru neu drwy ddull arall a amlinellir isod.
Gallwch gysylltu â mi yn y ffyrdd canlynol:
Cyfeiriad post
Llawr Cyntaf, 52 Stryd Fawr
Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 1BH
Cyfeiriad e-bost
Rhif ffôn
01352 753464
Fi yw'r person sy'n goruchwylio cydymffurfiaeth â'r gyfraith diogelu data a'r hysbysiad preifatrwydd hwn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn, sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin neu os hoffech wneud cwyn, cysylltwch â mi.
Os nad wyf yn gallu delio â chwyn mewn ffordd sy’n foddhaol i chi neu os ydych chi'n anhapus â'r ffordd yr wyf yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol, mae gennych hefyd yr hawl i wneud cwyn ar unrhyw adeg i awdurdod goruchwylio'r DU ar gyfer materion diogelu data, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Efallai y byddaf yn diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn o bryd i'w gilydd. Os byddaf yn gwneud unrhyw ddiweddariadau sylweddol, byddaf yn rhoi hysbysiad preifatrwydd newydd i chi. Efallai y byddaf hefyd yn eich hysbysu mewn ffyrdd eraill o bryd i'w gilydd am brosesu eich gwybodaeth bersonol.