Cefais fy ethol gyntaf i gynrychioli etholaeth Delyn yn y Senedd yn 2016 a fy ail-ethol yn 2021. Cefais fy magu yn Sir y Fflint ac rwy'n dal i fyw yma, felly mae gen i ddiddordeb gwirioneddol yn yr ardal rwy'n ei chynrychioli.
Mae’r Senedd yn Senedd i Gymru ac mae aelodau'n cynrychioli eu hetholaethau, yn dal Llywodraeth Cymru i gyfrif ac yn pasio deddfau sy'n llywodraethu llawer o feysydd o fywyd Cymru.
Fy mlaenoriaethau gwleidyddol yw gyrru mwy o swyddi da, cyfleoedd a mewnfuddsoddiad i’r gogledd-ddwyrain, ochr yn ochr â sicrhau iechyd cymunedau a gwasanaethau lleol. Mae gen i ddiddordebau polisi penodol mewn cyflogaeth, yr economi, seilwaith, cydraddoldeb, addysg, pobl ifanc, tai, gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl.